gan Beth Maiden
Yn ystod cyfnod clo 2020, denodd dehongliad brodwaith Penny Tristram o ddarlun Van Gogh, ‘Wheat Field with Cypresses’, ymateb ffafriol dros ben. Fe’i hanogwyd i greu mwy, ac aeth ati nesaf i greu teyrnged wedi’i phwytho â llaw i ‘The Swing’ gan Jean-Honoré Fragonard. Bellach, gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae hi’n datblygu’r prosiect yn gyfres lawn. Gyda thîm bychan i’w helpu, bydd Penny yn lansio Yr Hen Fiestres y mis hwn: cyfres o ddeg o baentiadau gwych o’r cyfnod cyn yr ugeinfed ganrif, a’r rheini wedi’u hailddychmygu drwy edau a nodwydd.
“Old Mistress yw fy nghyfle i ddehongli hen baentiadau hyfryd ymhellach. Rwy’n teimlo’n gyffrous yn cael y cyfle hwn. Heb gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a thîm creadigol tan gamp, mae’n debygol mai syniad rhwystredig heb ei wireddu fyddai’r gyfres hon, yn hytrach na rhywbeth sy’n dod yn real drwy bwythau.”
Yn ogystal â rhoi gofod gwerthfawr i ddatblygu sgiliau Penny fel artist tecstiliau, mae Old Mistress yn ymarfer mewn dull adolygiadol o edrych ar hanes. Yn hytrach na brodio gweithiau’r ‘hen feistri’ enwocaf yn unig (sydd wedi’u peintio bron yn llwyr gan ddynion gwyn), trodd Penny ei sylw at rai o fenywod ac artistiaid duon gorau’r cyfnod. Bydd straeon y rhain yn llai cyfarwydd o lawer i’r rhan fwyaf o bobl.
Er enghraifft, magwyd Joshua Johnson (UDA, tua 1763 – tua 1821) yn gaethwas heb y gallu i fanteisio ar yr addysg, y deunyddiau na’r rhwyd ddiogelwch yr oedd y rhan fwyaf o egin artistiaid yn dibynnu arnyn nhw. Pan gafodd ei ryddid yn 19 oed, bwriodd Johnson ati fel arlunydd portreadau llawrydd, hunanddysgedig, gan symud yn gyson i ddilyn ei gwsmeriaid cyfoethog o amgylch yr Unol Daleithiau. Fe baentiai mewn arddull ‘naïf’ unigryw, a oedd yn anarferol yn y cyfnod. Er gwaethaf y rhwystrau aruthrol a wynebai, fe’i hystyrir fel yr Americanwr Du cyntaf i feithrin gyrfa lwyddiannus fel artist, er mai prin yw’r wybodaeth am ei fywyd rhyfeddol, a hynny’n sicr oherwydd ei hil a’i ddosbarth.
Ar y llaw arall, ganwyd Berthe Morisot (Ffrainc, 1841–1895) i deulu cyfoethog a oedd â chysylltiadau da. Fe’i haddysgwyd yn y celfyddydau, ac aeth yn ei blaen i ddod yn arlunydd mawr ei bri. Er gwaethaf ei henwogrwydd, wynebodd ragfarn ar sail rhyw, gan gwyno yn ei dyddiadur nad oedd pobl yn ei chymryd o ddifrif fel artist o’i chymharu â’i chyfoedion gwrywaidd. Disgrifiwyd ei darluniau fel rhai’n ‘llawn o gyfaredd benywaidd’, a’i defnydd arbrofol o frwshwaith a lliwiau’n cael ei ystyried yn ‘ysgafn’.
Drwy ddewis ail-greu a rhoi lle canolog i waith artistiaid y cyrion ochr yn ochr â’r ‘hen feistri’ mwy enwog, mae Penny’n cyfrannu at ailadrodd hanes celfyddyd gan herio a datod y naratifau trefedigaethol a phatriarchaidd a ledaenir yn gyffredin, yn enwedig ynghylch pwy rydyn ni’n eu cydnabod yn artistiaid ‘mawr’. Fel yr eglura Penny, “fe gafodd yr artistiaid rwy’n eu dewis lwyddiant yn ystod eu hoes, a chael eu cydnabod am eu gwaith, felly mae’r gyfres yn herio’r cysyniad nad oedd artistiaid benywaidd nac artistiaid croenliw llwyddiannus yn y cyfnodau hyn, gan helpu gyda’r diffyg dealltwriaeth gymharol ohonyn nhw”.
Mae’r prosiect hefyd yn niwlio’r ffin rhwng ‘celfyddyd’ a ‘chrefft’ – ystyrid y cyntaf o’r rhain yn rhywbeth aruchel a berthynai i bobl gyfoethog yn unig, a’r ail yn rhywbeth a wneid fel llafur domestig neu fasnachol, sef creadigaethau menywod a phobl ddosbarth gweithiol, gan amlaf. Mae brodwaith cylchoedd ac edau Penny yn adleisio cyfrwng artistiaid menywod a oedd yn gaeth i ofodau domestig dros y canrifoedd. Drwy ddefnyddio gleiniau a wnaed o sbwriel traethau, a hen gynfasau gwely i greu canfas, dyna gydnabod dyfeisgarwch artistiaid nad oedd â theuluoedd a noddwyr cyfoethog yn gefn iddyn nhw.
A hithau’n artist anabl a niwroamrywiol, mae Penny yn falch o gael y cyfle i gael tâl go lew am waith sy’n araf ac yn llafurus, a chyfle i roi lle i’r gwaith hwnnw anadlu. Ond eto, mae’n waith y gall hi ei wneud gartref, wrth ei phwysau’i hun. “Fe ddes i at frodwaith ar ôl chwilio am gyfryngau a fyddai’n fy ngalluogi i weithio wrth orwedd neu wrth sefyll, yn hytrach nag wrth eistedd wrth ddesg yn unig, gan na alla’ i wneud hynny am gyfnodau hir” meddai
Bydd Yr Hen Fiestres yn cyflwyno deg o baentiadau gan amryw o artistiaid, gyda phump o’r rhain yn cael eu cwblhau yr hydref hwn. Yn yr wythnosau cyntaf hyn, mae gwaith Penny’n canolbwyntio ar ymchwil a datblygu – mae hyn yn cynnwys creu rhestr fer o artistiaid a gweithiau posibl, gan ddod o hyd i elfennau cyffredin a chydlynol rhwng paentiadau, ac ymgynghori ag artistiaid eraill am sut y gellid adrodd eu straeon. Ochr yn ochr â hyn, mae hi eisoes wedi dechrau gwaith ar y brodweithiau eu hunain.
Dewch yn ôl fis nesaf i gael diweddariad am y prosiect a chipolwg ar y brodweithiau sydd ar y gweill! A pheidiwch ag anghofio dilyn Penny ar ei thudalennau ar Instagram @pennytristram a TikTok @pennytristram.