Gan Beth Maiden
Mae’n fis Hydref, ac mae Penny bron â chwblhau ei brodweithiau. Mae hi’n brysur tu hwnt! Ond mae’r holl wnïo wedi rhoi amser iddi gnoi cil am y prosiect hyd yma. Mae hi’n ceisio deall beth sydd wedi gweithio’n dda, a beth i’w newid.
Dyma’r gwersi y mae Penny wedi’u dysgu.
1. Dechrau brodio yn gynharach
Ar ddechrau’r prosiect, fe fu Penny yn gweithio ar fideos a’r cyfryngau cymdeithasol. Roedd hyn yn golygu bod llai o amser ganddi i greu’r brodweithiau. Byddai’n well ganddi ddechrau’r brodweithiau yn gyntaf, er mwyn gallu gweithio’n araf a theimlo’r ‘llif creadigol’ yn datblygu.
2. Mae meddyginiaeth yn bwysig!
Mae gan Penny ADHD. Fe gafodd hi rywfaint o broblemau gyda’i meddyginiaeth ym mis Medi a mis Hydref. Roedd hyn yn golygu bod canolbwyntio’n anodd iddi. Mae hi’n gobeithio na fydd hi’n cael rhagor o broblemau yn y dyfodol!
3. Gweithio gyda ffrindiau
Fe wnaeth Penny roi cynnig ar weithio ar ei phen ei hun a gweithio gyda ffrindiau. Mae’n well ganddi weithio pan fydd pobl eraill o gwmpas. Mae cael cwmni yn ei helpu i ganolbwyntio ac yn hwb i ddyfalbarhau pan fydd y gwaith yn anodd.
Mae Penny wedi ymuno â grŵp o bobl sy’n gweithio gyda’i gilydd, felly bydd pethau’n haws yn y dyfodol.
4. Mae bywyd yn brysur!
Yn ystod cyfnodau clo’r pandemig, roedd gan Penny lawer o amser gartref i greu ei chelf. Ond gan fod bywyd bellach ‘yn ôl i normal’, mae hi’n brysurach o lawer. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n cymryd mwy o amser iddi greu’r brodweithiau. Y tro nesaf, bydd hi’n rhoi mwy o amser iddi hi’i hun.
Mae Penny yn edrych ymlaen at ran nesaf y prosiect. Bydd hi’n defnyddio’r gwersi y mae hi wedi’u dysgu i wneud pethau’n haws.